Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (11) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
14.35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.44
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
15.18
4. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: cymorth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn y dyfodol
15.58
5. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011
NDM4773 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15.58
6. Dadl ar godi safonau mewn ysgolion
NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;
b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion;
c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad ar 2 Chwefror 2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Uned Safonau Ysgolion yn atebol, yn deg, yn dryloyw ac yn cael ei monitro’n rheolaidd.
2. Yn nodi bod system bandio (categoreiddio) ysgolion yn cael ei chreu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu a chynnal y momentwm o ran symud ymlaen â’r cynllun 20 pwynt yn y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror 2011, er mwyn sicrhau nad yw Cymru’n disgyn fwy ar ei hôl hi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt b) ar ôl ‘ysgolion’ rhoi:
‘ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b):
‘, ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi fformat ac arddull y profion llythrennedd a rhifedd newydd ac amlinellu faint o amser y mae’n disgwyl y bydd athrawon yn ei dreulio yn gweinyddu a marcio’r profion hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai’r ffordd fwyaf effeithiol y bydd ysgolion Cymru yn codi safonau ysgolion yw drwy gael mwy o gyllid i ysgolion, drwy gyflwyno premiwm disgybl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;
b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon;
c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad ar 2 Chwefror 2011.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
16.38
7. Dadl ar ariannu tecach i Gymru
NDM4776 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r consensws cyffredinol sy’n bodoli yng nghymdeithas sifig Cymru nad yw’r setliad ariannol datganoledig ar gyfer Cymru yn addas i’r diben bellach, a’i fod er mwyn cefnogi’r consensws hwnnw:
a) Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau un pecyn cydlynol o ddiwygiadau i setliad ariannol Cymru ac yn cytuno bod yn rhaid i setliad o’r fath gynnwys:
i) cyfundrefn ariannu decach, sy’n ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach;
ii) datganoli pwerau benthyg i ariannu buddsoddiadau cyfalaf a’r hawliau i godi arian cyfalaf;
b) Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â diwygio ariannol i Gymru;
c) Yn annog y dylid dechrau’n fuan ar drafodaethau pendant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar y trafodaethau hynny, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid cryfhau atebolrwydd ariannol, yn unol ag argymhellion Rhan 2 o adroddiad Comisiwn Holtham o ran cyfrifoldebau cyllidol priodol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17.15
Cyfnod pleidleisio
17.17
8. Dadl Fer
NDM4774 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Gofalu am Ysbyty Llwynhelyg: Pam mae’n rhaid cadw’r gwasanaethau yno.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.43
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011